Hafan > Newyddion > Cangen Abergorlech - Noson Chwaraeon 2026


Cangen Abergorlech - Noson Chwaraeon 2026


CANGEN ABERGORLECH A’R CYLCH

Cynhaliwyd Noson Chwaraeon Blynyddol y Gangen yn Neuadd Llansawel. Croesawyd Canghennau Bro Pantycelyn, Llangadog, Nantgaredig, Pumsaint, Clybiau Gwawr Criw Cothi a Llanfynydd i ymuno. Roedd y chwarae yng ngofal medrus Pat Thomas a Beryl Owen, Trap, Diolch yn fawr i’r ddwy am noson hwylus iawn eleni eto. Mwynhawyd lluniaeth hyfryd ar y diwedd wedi ei pharatoi gan aelodau Cangen Abergorlech.