Hafan > Newyddion > Cangen Abergorlech - Noson Chwaraeon
Cangen Abergorlech - Noson Chwaraeon
CANGEN ABERGORLECH A’R CYLCH
Cynhaliwyd Noson Chwaraeon blynyddol y Gangen yn Neuadd Brechfa. Croesawyd Canghennau Bro Pantycelyn, Llangadog, Nantgaredig, Pumsaint a Chlwb Gwawr Llanymddyfri i ymuno. Roedd y chwarae yng nghofal medrus Pat Thomas a Beryl Owen, Trap. Diolch yn fawr i’r ddwy am noson hwylus iawn eleni eto. Mwynhawyd lluniaeth hyfryd ar y diwedd wedi ei pharatoi gan aelodau Cangen Abergorlech