Hafan > Newyddion > Bro Cyfeiliog ar eu taith Haf


Bro Cyfeiliog ar eu taith Haf


Bu aelodau Merched y Wawr Bro Cyfeiliog (Llanbrynmair) ar ei taith Haf ddydd Sadwrn, 22ain o Fehefin 2024 i Laeth y Llan. Cafwyd diwrnod arbennig yng nghwmni Gareth a Falmai Roberts. Cawsom hanes sefydlu’r busnes a sut mae’r cwmni yn mynd o nerth i nerth gan Gareth ac i ddilyn tê prynhawn bendigedig wedi’i baratoi gan Falmai. Cawsom daith o gwmpas eu gardd cyn ymadael. Diwrnod gwerth chweil yn wir!