Hafan > Newyddion > Bae Colwyn a Hen Golwyn yn ymweld a Pont y Tŵr


Bae Colwyn a Hen Golwyn yn ymweld a Pont y Tŵr


Fe fuodd rhai o aelodau Merched y Wawr Hen Golwyn a Bae Colwyn ar ymweliad mis Gorffennaf i weld gardd Pont y Tŵr, Rhuthun. Cawsom amser arbennig a chroesawgar iawn yno yn crwydro o gwmpas yng nghwmni Sioned Edwards, a braf oedd cael gweld y lle ar ôl gwylio rhaglen S4C Garddio a Mwy. Roedd pawb wedi mwynhau.