Hafan > Newyddion > Arddangosfa Pabi Coch Cangen Y Fali
Arddangosfa Pabi Coch Cangen Y Fali
Dan arweinyddiaeth Gladys Pritchard a Shân Thomas, bu nifer o aelodau Merched y Wawr Y Fali yn brysur yn gwau a chrosio pabis coch er mwyn llunio arddangosfa hardd i’w gosod yn Eglwys Sant Mihangel Y Fali ar gyfer Sul y Cofio eleni.
Dyma luniau’r aelodau’n cysylltu’r pabis gyda’i gilydd; Shân Thomas a Megan Wyn Roberts yn gosod yr arddangosfa yn Eglwys Y Fali; yr arddangosfa derfynol yn ei lle; a rhai o’r aelodau wedi galw yn yr Eglwys i weld yr arddangosfa.