Hafan > Newyddion > Aberconwy yn cyflwyno Blodau Gobaith


Aberconwy yn cyflwyno Blodau Gobaith


Rhanbarth Aberconwy

 

Yn ein Ffair Haf cawsom ddangos y ffram hyfryd i'r aelodau oedd yn y Ffair a penderfynwyd trwy ddangos dwylo mai i Hosbis Plant Ty Gobaith oedd y ffram i fynd.

Cawsom gyfle p'nawn ddoe i ddanfon y ffram, a cawsom groeso cynnes yno.

 

Mae estyniad newydd i adeiladau Ty Gobaith ar y ffordd, i'w orffen yn yr hydref, ac mae'n debyg mai i'r estyniad newydd fydd y ffram yn mynd.

 

Yn y lluniau o'r chwith - Ann P Williams, Mary Williams, Llinos Lloyd ( Ty Gobaith) a Myfanwy Roberts.