Home > Eich Rhanbarth > Penfro > Ffynnongroes > Cangen Ffynnongroes yn crefftio


Cangen Ffynnongroes yn crefftio


Noson o ddysgu sgiliau newydd gan y deuawd aml dalentog Sharon Harries a Gwenda Savins o Glwb Gwawr Clydau. Tipyn o sialens oedd ceisio ysgrifennu caligraffeg,a Sharon yn ei wneud i edrych mor hawdd! Dyma chi ffordd ddeniadol iawn o gyflwyno gwaith ysgrifenedig a merched Ffynnongroes yn ceisio copïo pennill cyntaf "Cofio" gan Waldo! Gwenda yn arddangos sut i wneud ffeltio gwlyb gan orchuddio darn bach o sebon. Defnyddio gwlân merino lliw plaen a thamaid o wlân wedi ei liwio i greu'r effaith aml-liw.