Home > Eich Rhanbarth > Meirionnydd > Y Bermo a’r Cylch > Cangen Y Bermo Rhagfyr 2025


Cangen Y Bermo Rhagfyr 2025


Bu Merched y Wawr Y Bermo a’r Cylch yn mwynhau Swper Nadolig yng ngwesty’r Victoria, Llanbedr eleni, yng nghwmni nifer o aelodau Cangen Harlech.

Estynwyd croeso cynnes i bawb gan ein Llywydd Morwena cyn iddi fynd ymlaen i ddarllen cyfarchion Nadolig gan Iona a Grace, y ddwy yn methu bod gyda ni ar y noson yn anffodus - anfonwn ein cofion atoch eich dwy.

Cawsom ginio blasus wedi ei weini gan y staff cyfeillgar.

Roedd yr aelodau i gyd wedi cyfrannu at raffl Nadolig ac roedd Morwena ac Alwena, ein trysorydd, wedi bod yn brysur yn didoli’r eitemau rhwng sawl basged hyfryd.Roedd yr enillwyr ffodus wrth eu boddau gyda’u gwobrau Nadoligaidd.

Talwyd y diolchiadau ar ran cangen Harlech gan eu Llywydd Mrs. Eirlys Williams.

Bydd ein cyfarfod nesaf ar ddydd Iau, Ionawr 15fed,2026, pan fydd Mr.Dylan Hughes yn dod atom i ddangos sleidiau.

Blwyddyn Newydd Dda i bawb.