Home > Eich Rhanbarth > Meirionnydd > Rhydymain > Cangen Rhydymain yn ymweld â Taldraeth
Cangen Rhydymain yn ymweld â Taldraeth
Cangen Rhydymain
Nos Fawrth gyntaf ym mis Mehefin aeth rhai o'r aelodau i ymweld â Taldraeth, Penrhyndeudraeth. A bum yn ffodus iawn o noson braf i fwynhau yr olygfa. Cafwyd groeso cynnes gan Mirain Gwyn. Wedi cael gweld a chlywed ei hanes yn dechrau'r busnes cawsom dro o amgylch yr ardd yn ogystal a'r ystafelloedd moethus mae yn eu gosod i ymwelwyr. Mae yn sicrhau fod popeth yn Gymraeg a'r bwydydd a'r cynnyrch i gyd o Gymru a'r mwyafrif yn cael eu tyfu/ paratoi ganddi yn Taldraeth. Yna cawsom fwynhau Te Bach Taldraeth gyda amrywiaeth arbennig a hwnnw i gyd yn flasus dros ben. Roedd cyfle hefyd i brynu cynnyrch Taldraeth