Home > Eich Rhanbarth > Meirionnydd > Dolgellau > Cangen Dolgellau yn mynd ar wibdaith


Cangen Dolgellau yn mynd ar wibdaith


'Ar ddiwrnod crasboeth ym Mehefin, aeth aelodau Cangen Dolgellau ar wibdaith; cinio yng Nghastell Deudraeth yn gyntaf, ac yna i grwydro Portmeirion yng nghwmni Meurig Jones (sydd yn y rhes gefn) wnaeth agor ein llygaid i driciau pensaernïol Clough Williams-Ellis wrth lunio a lleoli adeiladau'r pentref. Roedd dull cartrefol Meurig o gyfleu gwybodaeth yn hynod ddifyr, ac roedd pawb wedi mwynhau'r diwrnod yn fawr.'