Home > Eich Rhanbarth > Meirionnydd > Dolgellau > Cangen Dolgellau Gwibdaith Mehefin 2026


Cangen Dolgellau Gwibdaith Mehefin 2026


Dyma lun o aelodau cangen Dolgellau ar eu gwibdaith flynyddol.

Aethom i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ble mae golygfa ysblennydd oddi yno. 

Ar ôl paned a bara brith cwrdd ag un o’r staff oedd am ein tywys o gwmpas yr adeilad hardd yma. 

Cafwyd fideo i ddechrau yn olrhain hanes yr adeilad a pwy oedd yn gyfrifol am adeiladu fo yn Aberystwyth.

Cawsom fynd i’r Ystafell Ddarllen - llecyn distaw braf. Yna Stafell Summers ble roedd arddangosfa, am ardal Dolgellau, wedi ei pharatoi ar ein cyfer ni. Yna aethom i’r Archif Darlledu Cymru. 

Mae’n werth chweil mynd yna a cymaint i’w weld. Roedd pawb yn dweud eu bod angen mynd yn ôl yno.

Cawsom hefyd weld yr arddangosfa o’r Cist Heddwch. 

Gorffenwyd y daith gyda thê prynhawn blasus yno.