Hafan > Eich Rhanbarth > Meirionnydd > Clwb Gwawr Merched Meirion
Clwb Gwawr Merched Meirion
Croeso
Croeso i Glwb Gwawr Merched Meirion. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar y 3ydd nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Amdanom
Ym mis Hydref 2016 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Dolgellau. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 8 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Merched Meirion”.
Mae’r merched wedi trefnu rhaglenni amrywiol bob blwyddyn, gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Harddwch!
Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Rhaglen 26 - 27
Medi 10 - Bara Caws (Dadra), Theatr Bala
Hydref 22 - Tania Whitebits
Tachwedd 21 - Trip ar y Trên
Rhagfyr 4 - Cinio ‘Dolig,
Ionawr 21 - Fion Dafis
Chwefror 18 - Bingo, Stag
Mawrth 18 - Air Fryer
Ebrill 15 - Taith Gerdded
Mai 20 - Noson Hwyl
Mehefin = Dyddiad i ddilyn - Trip Haf i Dovey Valley Shooting Ground
Digwyddiadau
Man Cyfarfod: Amrywiol
Pryd: 7.30 3ydd Nos Iau y mis






