Home > Eich Rhanbarth > Meirionnydd > Brithdir > Cangen Brithdir yn mynd am dro
Cangen Brithdir yn mynd am dro
Cangen Brithdir
Cafwyd ein prynhawn "mynd am dro" dydd Sul ym mis Mai. Ar ol cinio yn y Bryn Arms, Gellilydan, aethom draw i Hen Ysgoldy Cae Adda yn Nhrawsfynydd, lle gawsom orig ddifyr yn clywed am waith clodwiw ag angenrheidiol Tîm Achub Mynydd De Eryri gan Myfyr ag Ian.