Hafan > Eich Rhanbarth > Maldwyn Powys > Clwb Gwawr Glyndwr


Clwb Gwawr Glyndwr


Croeso 

Croeso i Glwb Gwawr Glyndŵr. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar yr 2il nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb! 

Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni. 

Ardal Machynlleth 

Amdanom Ni 

Mae Clwb Gwawr Glyndŵr wedi bodoli ers dros 10 mlynedd, ac yn dal i fynd o nerth i nerth. Maent wedi mwynhau amrywiaeth o weithgareddau dros y blynyddoedd, o harddwch i wylio adar! 

Mae’r aelodau i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl. 

Maent yn cyfarfod yn ardal Machynlleth pob mis. 

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion. 

 

Rhaglen 23 - 24

Medi 14 - Noson yng nghwmni Dr Elin gyda bwyd yn y Penrhos

Hydref 14 - Gŵyl Rhanbarth Maldwyn - Sioe Ffasiwn Siop Daisy Blue, Llanfyllin yn y Clock Tower

Hydref 15 - Taith Gerdded i Foel Offrwm 

Tachwedd 9 - Celf gyda Elinor Wigley yn y Penrhos

Rhagfyr 2 - Mynd ar y trên i Aberystwyth a chael bwyd yn y GlenGower am 6

Ionawr 11 - O'r Wlad i'r Dref - noson yng nghwmni Mari Lvegreen a Gwenllian Lansdown Davies 

Chwefror 8 - Gosod blodau ac hyfforddiant gan Eluned Besent, Pennal yn y Llew Gwyn

Mawrth 14 - Dathlu Gŵyl Ddewi yng ngwesty Glan yr Afon, Pennal

Ebrill 11 - Noson o Fowlio Deg yn U strike Y Drenewydd

Mai 10 - Noson o fowlio yn y Clwb Bolwio Machynlleth

mehefin 8 - Trip ar y tren i Bermo a chael bwyd yn y Cpatains Table

Bar Offer
  • Arddangos Capsiynau
  • Cuddio Mân-luniau
  • Dangos Catgoriau
  • Chwarae Slide Show
  • Dangos mewn sgrin llawn
  • Cuddio Bar Offer

.
 
 
  • .
  • .

Digwyddiadau

Y Dyfi

Man Cyfarfod:

Pryd:

Swyddogion


Ysgrifennydd

Enw: Heulwen Williams

Cyfeiriad: Maes y Creiau, Llanwrin, Machynlleth, Powys, SY20 8NB

E-bost: ifanwilliams13@gmail.com

Ffôn: 07947 226 050

Newyddion Diweddaraf


Eich Canghen