Cangen Bro Cyfeiliog yn ymweld a Amgueddfa Wehyddu'r Drenewydd
Cangen Bro Cyfeilog
Bu aelodau Merched y Wawr Bro Cyfeiliog yn ymweld ag Amgueddfa Wehyddu’r Drenewydd fel rhan o’i noson agoriadol ym mis Medi. Cawsant eu tywys o gwmpas gan Hywel Jones a roddodd hanes a chefndir yr Amgueddfa. Roedd yr adeilad yn rhan o ffyniant mewn gwehyddu gwŷdd llaw yn gynnar yn y 1800au, tan ddyfodiad y melinau gwlân mawr i’r Drenewydd erbyn diwedd y 19eg ganrif a roddodd ddiwedd ar lawer o’r diwydiant gwehyddu dwylo. Roedd yr Amgueddfa yn dangos rhywbeth o brofiad y rhai a fu’n byw ac yn gweithio yno, gan roi amlinelliad o hanes diwydiannol y Drenewydd. Aethant ymlaen wedyn i’r Waggon & Horses, lle cawsant swper blasus.
Hefyd, dyma lun o Margaret Jones (Llywydd) yn cyflwyno Tlws i Aelod Mwyaf Teilwng 2022-2023 – i Mrs Elisabeth Jones.