Terynged Mrs Jean Bolton
Cangen Pontarddulais a'r Cylch
Gyda thristwch mawr, bu farw Mes Jean Bolton ar Ionawr 31 2023.
Jean sefydlodd cangen Merched y Wawr Pontarddulais a'r cylch yn 1975, a bu'n Llywydd yn 1998-9 a 2003-4 y trydydd tro yn 2014-15, trefnodd Dathliad Rhuddem arbennig yn y Clwb Rygbi (gyda gwisgoedd arbennig y 7 degau) ac yn hwyrach yn y flwyddyn "Cyngerdd Mawreddog" gyda Artistiaid enwog iawn.
Jean hefyd gychwynnon ein Clwb Cerdded - "Camu Mlan" yn 2002 sy nawr ag Aelodau o Ganghennau Merched y Wawr cyfagos - Gorseinon, Treboeth a Llangennech. Fe gofiwyd a diolchwyd i jean ar ein wacen yn ardal Cwmdulais, Pontarddulais fore Mawrth 6/2/23.
Cyfranodd erthyglau i'n Cylchgrawn a bu ar bwyllgor "Y Wawr" a pherfformiodd yn Genedlaethol. Roedd Jean yn wraig boblogaidd, ymroddgar, dawnus, brwdfrydig a ffyddlon i lawer iawn o Gymdeithasu yn y Bont gan gynnwys - Capel y Tabernacl, Sawl Cor, Clybiau Darllen, a lle bu yn Gadeiryddes yr U.3.A ac yn ymwneud a llawer o'i changhennau.
Bu'n flaenllaw i dacluso a phlannu planhigion i harddu'r Orsaf Rheilffordd a helpu osod Hysbysfwrdd yno am Hanes yr Ardal, drwy 'Bartneriaeth Pontarddulais'. Atgofion melys gennym o'r Llais Alto hyfryd yn canu rhan o gytgan Anthem M.Y.W. "Fy hiaith a'm gwlad"
Bydd ei cholled yn enfawr i'r gymuned a chydymdeimlwn yn ddwys ag Elan, Dyfed a'u teuluoedd "Ei haberth ni a heibio".