Hafan > Eich Rhanbarth > Glyn Maelor > Fama
Fama
Croeso
Croeso i Glwb Gwawr Fama. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar nos Wener unwaith bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Ardal Yr Wyddgrug
Amdanom
“Gwawrio” yn Sir y Fflint 2009
Ar y 4ydd o Fedi 2009 mi ddaeth criw o 20 o ferched ifanc at ei gilydd i sefydlu Clwb Gwawr cyntaf Sir y Fflint. Ar ôl taith gerdded egniol mwynhaodd y criw pryd o fwyd blasus yn Nhafarn yr Enfys, Gwernymynydd. Cytunwyd ar yr enw “Clwb Gwawr Fama”.
Dros y blynyddoedd, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r merched wedi mwynhau rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Gardiau Tarot!
Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Swyddogion
Ysgrifennydd
Enw: Rhian Gardner
Cyfeiriad: Arosfa, Ffordd Llanfynydd, Treuddyn, CH7 4LQ
Ffôn: 01352 770 824