Home > Eich Rhanbarth > Glyn Maelor > Dinbych a’r Cylch > Merched y Wawr Kariad Medi 2026 Dinbych a'r Cylch
Merched y Wawr Kariad Medi 2026 Dinbych a'r Cylch
Merched y Wawr Kariad Medi 2026 Dinbych a'r Cylch
Roedd ein noson agoriadol yn gyfarfod wirioneddol arbennig. Noson o Hud a Lledrith gwahanol iawn i’r arferol.
Yn ogystal â rhyfeddu at ddawn eithriadol Karen, cawsom sioe a ysbrydolodd bawb i feddwl, teimlo, a gwerthfawrogi’r pethau bach pob dydd.
Roedd pawb wedi gwerthfawrogi’r cyfle i weld perfformiwr adnabyddus, Kariad – Karen Wynne efo ni ar y noson, diolch i Noson Allan a Chyngor Sir Dinbych.
Llun yn dangos Karen Mcaulay, Catherine Howarth ( Is-Lywydd a Llywydd) a Karen Wynne.