Hafan > Eich Rhanbarth > Glyn Maelor > Clwb Gwawr Sêr Maelor
Clwb Gwawr Sêr Maelor
Croeso
Croeso i Glwb Gwawr Sêr Maelor. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar nos Wener unwaith bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Ardal Wrecsam
Amdanom
Ar 30 o Fai 2012 daeth criw o ferched at ei gilydd yn y Saith Seren, Wrecsam i glywed mwy am Glybiau Gwawr. Ar ôl sgwrs efo Swyddog Hyrwyddo a Datblygu Clybiau Gwawr y Gogledd, roedd pawb yn unfrydol bod eisiau dechrau “Clwb Gwawr Sêr Maelor”.
Ers hynny, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r merched wedi mwynhau rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o greu truffles siocled i gadw’n heini!
Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Digwyddiadau
Man Cyfarfod:
Pryd: 7:00yh ar nos Wener unwaith bob mis