Home > Eich Rhanbarth > Colwyn > Llansannan > Cwilt Pwythau'r Pentref Ebrill 2026


Cwilt Pwythau'r Pentref Ebrill 2026


Dyma aelodau dosbarth ‘Pwythau’r Pentref, Llangernyw. Mae hwy wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn pwytho'r cwilt bendigedig yma a fydd yn wobr gyntaf yn raffl# yn Sioe Fawr Llanelwedd. Bydd y llyfrau yn £1 yr un a mae 15 o wobrau gwych, llyfrau ar gael o'r swyddfa neu mewn rhai o'r gweithgareddau Cenedlaethol. Bydd hanner yr elw yn mynd at "Ymchwil Canser Cymru".

Rhes ôl, o’r chwith - Sian Lloyd-Jones, Eirwen Evans, Rhiannon Ifan, Susan Rimmer

Rhes flaen, o’r chwith - Oswen Davies, Anne Hughes, Marian Davies, Haf Roberts.  Diolch i chi gyd🌸💕💖