Digwyddiadau Cangen Peniel Medi i Rhagfyr 2021
Yn ystod hanner olaf 2021 llwyddodd Cangen Merched y Wawr Peniel i gael grant gan CGGS. Diolch i CGGS am hyrwyddo y cyfleoedd canlynol. Pwrpas y grant oedd trefnu digwyddiadau i ail ddechrau cyfarfod wyneb yn wyneb a hybu gweithgareddau cymunedol unwaith eto. Trefnwyd pedair gweithgaredd. Yn mis Medi daeth Sian Owen, artist o Gaernarfon i’n hannerch am Gelf Gwerin Llechi Bethesda. Rhannodd ei brwdfrydedd am y pwnc ac eglurodd pa mor bwysig yr oedd i’n diwylliant a’n hanes ni fel Cymry. Yn yr ail noson a drefnwyd daeth yr awdures lleol Elinor Wyn Reynolds atom i’n tywys trwy’r broses o ysgrifennu ei darn rhyddiaeth cyntaf ‘Gwirionedd’. Cafwyd noson hwyliog a diddorol yn ei chwmni gan bod y llyfr wedi ei leoli yng Nghaerfyrddin. Yn mis Tachwedd cawsom noson grefft gyda mam a merch perchnogion Sied yr Ardd. Bu’r aelodau wrthi’n ddiwyd yn creu torchau yn barod ar gyfer y Nadolig. Cyn y Nadolig fe aeth yr aelodau i fwyty’r Lolfa yng Nhaerfyrddin lle cawsom sgwrs ddiddorol gan y perchennog Steffan Hughes am ei benderfyniad i newid gyrfa o lawr y dosbarth i fyd busnes. Eglurodd i ni pa mor bwysig oedd defnyddio cynnyrch Cymreig lleol yn ei fwyty a dangoswyd i ni sawl cwrs Tapas a sut i baratoi coctêl di-alcohol. Noson ymlaciol iawn