Home > Eich Rhanbarth > Caerfyrddin > Peniel > Cangen Peniel Medi 26


Cangen Peniel Medi 26


Swynwyd llond neuadd o ferched gan gynnwys 12 aelod newydd, oll yn eu pinc, gan Maria Stedman ein siaradwraig wâdd ar noson gyntaf tymor newydd Merched Y Wawr Peniel. Cyflwynodd ffrwyth ymchwil rhyfeddol ei diweddar ŵr, Dr. Alun Stedman, ar hanes gyfoethog ei deulu yn ardal Ystrad Fflur. Llwyddodd i olrhain hanes ei deulu yn ôl i’r ddeuddegfed ganrif gan gyfeirio at gysylltiadau’r teulu gyda nifer o leoliadau a chymeriadau dylanwadol yn hanes ein cenedl.

Un o amcanion y noson oedd codi arian i elusen ein Llywydd Cenedlaethol, Bethan Picton Davies, Ymchwil Canser Cymru. Cyfrannodd ein haelodau eitemau pinc er mwyn creu hamperi hyfryd ar gyfer y raffl. Diolch i Siop y Pentan hefyd am gyflwyno anrheg ar gyfer y raffl. Llwyddwyd i godi swm sylweddol iawn ar gyfer yr elusen.

Braf oedd cael nodi bod y gangen wedi bod yn llwyddiannus wrth ymgeisio am Grant Bach o Gronfa Fferm Wynt Brechfa. Diolch yn fawr am eu cefnogaeth. Bydd yr arian yma yn cael ei ddefnyddio i hwyluso gweithgarwch y gangen.