Home > Eich Rhanbarth > Caerfyrddin > Hendygwyn ar Daf > Cangen Hendygwyn ar Daf Mawrth 2026


Cangen Hendygwyn ar Daf Mawrth 2026


Cyfarfu cangrn Hendygwyn yng Nghanolfan Hywel Dda ar Fawrth 17eg i fwynhau Cawl Gŵyl Ddewi gyda'i gilydd. Roedd pawb mewn hwyliau da ac roedd hi mor braf i gael cwmni Jane Morgan. Cawsom y pleser o wrando ar ychydig o eiriau pwrpasol ganddi parthed gweithgareddau presenol y Mudiad ar ôl mwynhau'r cawl a'r danteithion hyfryd a baratowyd gan Llinos a'r criw yn y caffi.

Yn dilyn y cawl, dosbarthwyd Cwis am Gymru i'r aelodau a'r enillwyr oedd Tîm yr Anns gyda bach o help wrth Elonwy a Carole!! Y wobr oedd pobi wy Pasg bach. Prynhawn hyfryd unwaith eto.