Clwb Gwawr Llanymddyfri - Plygain Ionawr 2026
Clwb Gwawr Llanymddyfri
Diolch yn fawr iawn i’r rhai ohonoch fuodd yng Ngwasanaeth Plygain Clwb Gwawr nol ym mis Ionawr. Mae haelioni chi y gynulleidfa wedi ein galluogi i gyfannu at nifer o achosion da lleol.
Eleni rydym wedi cyfrannu i Eglwys Llanfair ar y Bryn er mwyn ail wneud y llythrennau ar fedd William Williams Pantycelyn sydd wedi dirywio dros y blynyddoedd. Rhoddwyd cyfraniad i’r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol, Aelwyd Llyn y Fan, apȇl Merched y Wawr a Chlybiau Gwawr at Ymchwil Canser Cymru a Chanser y Fron. ac i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Glangwili (SCUBU). Llynedd ganwyd ŵyr ac ŵyres fach i ddwy aelod o’n Clwb Gwawr. Derbyniodd y ddau faban ofal yn yr uned . Hyfryd iawn oedd cael cwmni y ddwy fam sef Rhian a Ffion ac yn fwy na dim i Miri ac Ifan sy bellach yn tynnu at eu blwydd oed.

