Home > Eich Rhanbarth > Caerfyrddin > Clwb Gwawr Criw Cothi > Clwb Gwawr Criw Cothi Ebrill 2026
Clwb Gwawr Criw Cothi Ebrill 2026
Cafodd Clwb Gwawr Criw Cothi noson hyfryd a phleserus iawn pan ymwelon nhw a Chanolfan Arddio Llangadog ym mis Ebrill. Diolch yn fawr i Lara am y croeso ac am roi arddangosiad i ni sut i botio planhigion a diolch hefyd am y “tips”. Wedyn cafodd bawb cyfle i fynd o amgylch a phrynu planhigion a photiau ac ati cyn mynd i’r caffi i fwynhau swper blasus a baratowyd gan Catrin gyda help Chloe. Llongyfarchiadau i Liz a Maisie am ennill y raffl. Yn ystod y noson cyflwynwyd siec i Jane ar ran y Clwb i Ymchwil Canser Cymru sef elusen ein Llywydd Cenedlaethol Bethan Picton-Davies.



