Home > Eich Rhanbarth > Caerfyrddin > Bro Pantycelyn > Cangen Bro Pantycelyn yn cael Te Prynhawn


Cangen Bro Pantycelyn yn cael Te Prynhawn


Cangen Bro Pantycelyn

Ar y ail ddydd Sul o Orffennaf bu'r aelodau yn brysur yn paratoi danteithion blasus iawn erbyn ein Te Prynhawn. Diolch i bawb am eu gwaith. Roedd y Neuadd yn edrych yn groesawgar iawn gyda'r byrddau yn llawn o gacennau a brechdannau hyfryd. Cawsom gefnogaeth arbennig a chyfle i gymdeithasu gyda aelodau a ffrindiau o'r ardal. Prynhawn hwylus iawn. Roedd yn bleser gennym i fedru rhoi cyfraniad i Ffrindiau Ysbyty Llanymddyfri. Edrychwn ymlaen at ein cyfarfod nesa ar yr 13eg o fis Medi. Croeso cynnes i unryw un i ymuno a ni ar yr ail ddydd Mercher o bob mis yn y Neuadd Gatholig am ddau o'r gloch y prynhawn.