Home > Eich Rhanbarth > Caerfyrddin > Abergorlech > Cangen Aberogrlech yn mynd ar daith i Sir Benfro!
Cangen Aberogrlech yn mynd ar daith i Sir Benfro!
Cafodd Merched y Wawr Abergorlech a’r Cylch diwrnod ddiddorol a hwylus iawn yn ddiweddar yn Sir Benfro. Yn gyntaf cawsant frecwast yng Nghaffi Beca ac yna mynd o amgylch yn y bws gyda Eurfyl a roddodd hanes i ni o’r ardal. Roedd hefyd yn hyfryd iawn cael cwmni ein Llywydd Cenedlaethol Jill i frecwast. Galw hefyd yn Nhafarn Sinc ar y ffordd am baned. Swper wedi’n yn y “Salutation” Felindre Farchog cyn troi am adre’. Diolch i Janet am yrru’r bws ac i Eurfyl am ein tywys o amgylch. Pawb wedi mwynhau.