Home > Eich Rhanbarth > Arfon > Y Groeslon > Crefftau'r Gelli gyda Cangen Groeslon


Crefftau'r Gelli gyda Cangen Groeslon


Daeth Gwenno Fflur, sydd yn wreiddiol o’r Groeslon ac yn wraig fferm Y Gelli, Glanyrafon ger Y Bala, atom i gyfarfod Ebrill o gangen Y Groeslon i sôn am ei busnes crefftau llwyddiannus o’r enw Crefftau Gelli. Dyma hi’n dangos sut i wneud gorchudd lamp.