Home > Eich Rhanbarth > Arfon > Tregarth > Cangen Tregarth Mehefin 2024
Cangen Tregarth Mehefin 2024
Cawsom ddiweddglo hyfryd i flwyddyn o weithgareddau’r gangen drwy ymweld a’r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd ar Ddydd Sadwrn y 6ed o Orffennaf. Cawsom groeso cynnes a chyflwyniad gwych gan Alwen Derbyshire a Casi Nan gyda’r ddwy yn ein tywys o amgylch y ty. I ddiweddu’r diwrnod cawsom ginio bendigedig yn Y Grapes, Maentwrog.

