Hafan > Eich Rhanbarth > Arfon > Clwb Gwawr Genod Llan
Clwb Gwawr Genod Llan
Croeso
Croeso i Glwb Gwawr Genod Llan. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar y nos Iau cyntaf o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Ardal Llandrwog
Rhaglen 26 - 27
Medi 4 - Trafod syniadau rhaglen y flywddyn
Hydref 3 - Taith dywys a blasu yn Bragdy Lleu
Tachwedd 26 - Gweithdy creu torch Nadolig
Rhagfyr 5 - Gwledd Nadolig yn Ty'n Llan
Ionawr - Gong bath
Chwefror12 - Gig Clwb
Chwefror 28 - Cinio Sul yn Melin Selon
Ebrill 7 - Gwers ukelele efo Huwcele
Mai - Taith cerdded Clegir, Llanberis
Mehefin - Sgwrs efo'r awdures Marlyn Samuel
Gorffenna - Te pnawn yn Becws Melys Caernarfon
Amdanom
Ym mis Gorffennaf 2015 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Llandwrog. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 12 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Genod Llan”.
Mae’r merched wedi trefnu rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Yoga!
Maent i gyd yn elwa o gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Digwyddiadau
Man Cyfarfod:
Pryd: Amrywio






