Hafan > Digwyddiadau > Sioe Frenhinol Cymru - Llanelwedd - Ceredigion


Sioe Frenhinol Cymru - Llanelwedd - Ceredigion


Cystadleuaeth Cwpan Radi Thomas 2024

Thema – Crefftau Gwledig/Cefn Gwlad

(Pum eitem ar gyfer cystadleuaeth Radi Thomas)

(i)                Crefft 1: Crogwr Wal – e.e wedi’i wehyddu, macramé, gwaith gwlân a.y.y.b.   Pwyslais ar y grefft yn hytrach na phortreadu cefn gwlad ei hun.

(ii)             Crefft 2: Tri Llun – adlewyrchu crefftwyr neu gefn gwlad i’w harddangos mewn ffrâm.  Gellir bod yn ffotograff, paentiad, gwaith cwyr ac ati.  Caniateir lliw neu ddu a gwyn.

(iii)          Crefft 3: Pedol – creu pedol neu ddarn o waith yn cynnwys pedol neu ddarlunio pedol, croes bwyth, pedol bren, crochenwaith ac ati.

(iv)           Blodau – Thema: Crefftau Gwledig/Cefn Gwlad – Gosodiad i ddehongli crefftau Cefn Gwlad (blodau ffres)

(v)             Coginio – Cagen Gneifio/Ffermio/Cacen Fraith (Fruit Cake), teisen ferem, teisen dorth, teisen ffwrn, torth frith, cacen hadau carwe (caraway).