Hafan > Digwyddiadau > Digwyddiadau Cenedlaethol > Penwythnos Preswyl - Llanbedr Pont Steffan
Penwythnos Preswyl - Llanbedr Pont Steffan
11.30 - 5.00 Cofrestru yng Nghanolfan y Celfyddydau - Llanbedr Pont Steffan
Lletya ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan
11.30 - 5.00 Cyfle i siopa yn Llanbedr Pont Steffan neu ymweld â’r Ganolfan Cwiltio Cymru (Pris: £8.00 dros 65 a £9.50 o dan 65) (sy’n agored 11 tan 4:30)
5.30 - 7.00 Swper yn y ffreutur
Cwrs cyntaf:
Cawl Cartref gyda rôl fara a menyn Cymraeg
oOo-
Prif Gwrs:
Brest cyw iâr wedi’i rhostio gyda stwffin, cennin a chaws Cymreig a’i weini gyda saws gwin gwyn a spigoglys
Neu
Selsig Caws Cymreig Morgannwg gyda saws tomato
(y ddau bryd wedi ei weini gyda thatws a llysiau tymhorol)
-oOo-
Pwdin:
Tarten lemwn gyda mafon ffres a hufen Chantilly
Paned gyda mintys siocled
7.00 Croeso swyddogol gan Geunor Roberts, Llywydd Cenedlaethol
Croeso i Llanbedr Pont Steffan gan y Maeres Gabriel Davies
7.30 Adloniant gan “Merched Soar”
BORE SADWRN
7.00 - 8.30 Brecwast yn y Ffreutur
Arlwy’r Bore yng Nghanolfan y Celfyddydau
9.00 Sioe Ffasiwn gan Lan llofft, Duet, Glamor, Tenovus, D.L. Williams a’r Groes Goch
yng nghofal Hazel Thomas
9.35 Gwenfair Owen – Gwledd i’r llygaid a'r enaid yng Ngheredigion
10.00 Toriad - paned a bisged a chyfle i weld arddangosfeydd a siopa
10.45 Elliw Dafydd – Actores o Geredigion
11.15 Helgard Krause – Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru
11.40 Trafod y Tripiau
11.45 Cyfle i siopa a mynd am ginio
12.00 – 1.00 Cinio Dydd Sadwrn
Ham wedi ei rostio mewn mêl, Quiche caws Cymreig a llysiau rhost,
salad gwyrdd, colslo, salad pasta a thatws newydd gyda menyn a phersli
-oOo-
Cacen Gaws Mefus gyda hufen Chantilly
-oOo-
Paned gyda mintys siocled
PRYNHAWN SADWRN – Gwibdeithiau 1.00
- Taith Gerdded o dywysedig o amgylch Llanbedr Pont Steffan (cymhedrol).
2. Taith bws dywysedig arbennig i Eglwys Llanwenog, Drefach yng nghwmni Hybarch Eileen Davies lle ceir hanes difyr (bydd angen cerdded 800 medr o’r bws i’r Eglwys) (tâl ychwanegol o £10 yn cynnwys bws a thywysydd).
3. Taith bws dywysedig i Langeitho - croeso gan Daniel Thomas a Sara Evans ac ymlwybro o amgylch y pentref gan gael cyfle i weld bedd Annie Cwrt Mawr, cerflun Daniel Rowland a llawer mwy.
(tâl ychwanegol o £10 yn cynnwys bws a thywysydd).
4. Taith bws i Aberaeron - gyda’r opsiwn o gerdded o Lannerchaeron i Aberaeron a dal bws yn ôl i Llanbedr Pont Steffan (tâl ychwanegol o £10 yn cynnwys bws a thywysydd).
5. Prynhawn rhydd
5.30 Swper yn y Ffreutur: Cwrs cyntaf:
Pate afu cyw iâr gyda salad, siytni o Gymru a bara wedi’i dostio
Neu
Pate Llysieuol gyda salad, siytni o Gymru a bara wedi’i dostio
-oOo-
Prif Gwrs:
Lwyn Porc gyda grefi seidr a thatws hufennog
Neu
Pentwr llysiau rhost a polenta gyda saws tomato
(y ddau bryd wedi ei weini gyda thatws a llysiau tymhorol)
-oOo-
Pwdin:
Cacen gyffug siocled gyda hufen
Paned gyda mintys siocled
7.30 Gair gan ein Llywydd Anrhydeddus Margarette Hughes
Noson o Adloniant yng nghwmni Bois y Gilfach a Heledd Williams
Cyfle i hamddena a chymdeithasu
Gwobrwyo’r limrig a’r frawddeg orau
Tynnu Raffl a chyfle i hamddena a chymdeithasu
DYDD SUL
7.00-8.30 Brecwast
9.00 Gwasanaeth yng ngofal Cangen Cylch Aeron
9.20 Gareth Richards – gwledd o fwyd Ceredigion
9.50 Llyfrau Ceredigion
10.00 Toriad - paned a bisged
10.40 Gwenllian Beynon – Artistiaid y Fro
11.20 Dr Emily Lloyd-Williams – Arallgyfeirio, teithio a mwy
11.50 Diolchiadau gan yr Is-lywydd Cenedlaethol Bethan Picton Davies
Canu Cân y Mudiad
12.15 Cinio Dydd Sul Cwrs cyntaf:
Melon melys gydag aeron yr haf a coulis
-oOo-
Prif Gwrs:
Cig Eidion o Gymru gyda phwdin Swydd Efrog a grefi teim
neu
Wellington madarch pupur a chnau ffrengig
(y ddau bryd wedi ei weini gyda thatws a llysiau tymhorol)
-oOo-
Paned gyda mintys siocled
Ffurflen Gofrestru Penwythnos Preswyl 2024