Hafan > Newyddion > Newyddion Cenedlaethol > Meinir Jones yn dechrau yn ei swydd newydd!
Meinir Jones yn dechrau yn ei swydd newydd!
Croesawn heddiw Meinir Jones i ymuno gyda ni yn Swyddfa Merched y Wawr fel Swyddog Gweinyddol. Mae Meinir yn briod gyda Aled ac mae ganddynt ddau o blant sef Rhydian sy’n adeiladwr a Manon sy’n ffysiotherapydd. Mae Meinir yn aelod yn Merched y Wawr Llangwyryfon ac wedi bod yn ysgrifenydd personol i’r Pennaeth yn Ysgol Gyfun Penweddig. Mae yn mwynhau cymdeithasu, coginio, teithio a canu.