Hafan > Newyddion > Newyddion Cenedlaethol > Croeso i Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024


Croeso i Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024


CROESO I FERCHED Y WAWR I EISTEDDFOD YR URDD, MEIFOD 2024

 

Pleser i mi yw eich gwahodd

Draw i Faldwyn ddiwedd Mai,

Ac i ddolydd bras Mathrafal

Mae’r lleoliad yn ddi-fai.

 

Yno byddwn yn ein pabell

I’ch croesawi chi – a’r plant

Paned boeth neu ddiod ysgafn

Cacen gri – os at eich dant!

 

Dewch o’r De a dewch o’r Gogledd

Dwyrain a’r Gorllewin pell,

Draw i Feifod, unwaith eto,

Ni fydd ‘nunman groeso gwell.

 

Yn ein pabell fe gewch ddathlu

Hanes ‘Merched Maldwyn’ gynt

A rhown glod i’r rhai sydd heddiw’n

Chwifio’r faner ar eu hynt.

 

Os am glywed sain y delyn,

Dewch i’r babell fore Llun

Rhiain fydd yn tynnu’r tannau

I’ch diddanu chi bob un.

 

Fe gewch siawns i ennill Telyn –

Un fach hwylus iawn i’r plant,

A bydd yr enillwyr lwcus

Wrth eu bodd yn taro Tant.

 

Atgof fydd o Laura Ashley

Yn addurno’n pabell ni

Bynting lliwgar oddi amgylch

Ac yn chwifio fyny fry!

 

Fe fydd yno fyrdd o sgarffiau

O bob maint a lliw a llun,

Ac ar werth bydd mwclis lliwgar

Dewch i’w prynu – dewch bob un.

 

Dewch i mewn i gwrdd a ffrindie

A chael clonc dros baned boeth!

Neu i sgwrsio gyda Geunor

Ein Llywydd Cenedlaethol doeth!

 

Falle, cewch, os byddwch lwcus

Air a Tegwen – mawr ei dawn.

Ond mae hi fel y morgrugyn –

Drwy y dydd yn brysur iawn.

 

Fe fydd cornel fach i’r plantos

Cyfle iddynt liwio llun,

Neu wneud chwilair os dymunant,

(I’w mam gael munud iddi ei hun)

 

Merched Carno ddaw i weini

Byddant yno gyda gŵen

A Llanerfyl, Foel, Llangadfan,

Llanbrynmair – maent oll yn glên.

 

Rhai Bro Ddyfi a Chaereinion

A’r Drenewydd – ar fy ngwir!

Merched Mochnant a Llanfyllin

A Glantwymyn – drwy’r holl Sir!

 

Ferched Cymru, dewch i Feifod

Croeso cynnes yno fydd

Yn ein pabell, cewch ymlacio

Am ryw orig fach o’r dydd.