Hafan > Eich Rhanbarth > Meirionnydd > Merched Meirion
Merched Meirion
Croeso
Croeso i Glwb Gwawr Merched Meirion. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar y 3ydd nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Ardal Dolgellau
Amdanom
Ym mis Hydref 2016 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Dolgellau. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 8 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Merched Meirion”.
Mae’r merched wedi trefnu rhaglenni amrywiol bob blwyddyn, gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Harddwch!
Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.