Hafan > Eich Rhanbarth > Meirionnydd > Bro Dysynni


Bro Dysynni


Croeso 

Croeso i Glwb Gwawr Bro Dysynni. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar yr 2il nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb! 

Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni. 

Ardal Tywyn / Bryncrug 

 

Amdanom 

Ym mis Hydref 2017 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Tywyn a Bryncrug. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 15 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Bro Dysynni”. 

Mae’r merched wedi trefnu rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Waith Lledr! 

Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl. 

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion. 

Bar Offer
  • Arddangos Capsiynau
  • Cuddio Mân-luniau
  • Dangos Catgoriau
  • Chwarae Slide Show
  • Dangos mewn sgrin llawn
  • Cuddio Bar Offer

 
 

Swyddogion


Ysgrifennydd

Enw: Bethan Lawton

E-bost: beth.lawton@gmail.com

Newyddion Diweddaraf

Disgwyl Cynnwys...


Eich Canghen