Hafan > Eich Rhanbarth > Dwyfor > Genod Y Glannau
Genod Y Glannau
Croeso
Croeso i Glwb Gwawr Genod Y Glannau. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar y nos Fercher cyntaf bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Amdanom ni
Ar nos Fercher 1af o Hydref 2014 daeth criw o ferched at ei gilydd yn y Lion Hotel, Cricieth i glywed mwy am Glybiau Gwawr. Ar ôl sgwrs efo Swyddog Hyrwyddo a Datblygu Clybiau Gwawr y Gogledd, roedd pawb yn unfrydol bod eisiau dechrau “Clwb Gwawr Genod y Glannau”.
Ers hynny mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r merched wedi mwynhau rhaglen amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Bowlio 10!
Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Digwyddiadau
Man Cyfarfod:
Pryd: Ionawr 8fed
Man Cyfarfod:
Pryd: Chwefror 5ed
Man Cyfarfod:
Pryd: Mawrth 4ydd
Man Cyfarfod:
Pryd: Ebrill (dyddiad yw gadarnhau)
Man Cyfarfod:
Pryd: Mai 6ed
Man Cyfarfod:
Pryd: Mehefin 13eg
Swyddogion
Ysgrifennydd
Enw: Anna Madog Hughes
Cyfeiriad: Bryn Ffynnon, Tremadog
Ffôn: 07791 092 269