Home > Eich Rhanbarth > Caerfyrddin > Caerfyrddin > Cangen Caerfyrddin yn cyflwyno siec


Cangen Caerfyrddin yn cyflwyno siec


Meinir Hughes Griffiths o gangen Merched y Wawr Caerfyrddin yn cyflwyno siec o £550,a godwyd yng ngwasanaeth y Plygain yng Nghapel y Priordy, i Iwan Evans, Cadeirydd Pwyllgor Apêl Tref Caerfyrddin Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2023. Hefyd yn y llun mae Llywydd y gangen, Glenys Thomas a'r ysgrifenyddes, Mair Meredith. Carem ddiolch o galon fel Merched y Wawr i'r holl gapeli, cymdeithasau a chorau'r dre am fod mor barod i gymryd rhan. Mae'r gwasanaeth wedi datblygu'n rhan annatod o weithgaredd blynyddol y gangen ac edrychwn ymlaen at noson debyg ddiwedd 2023.